Mae Maes Carafanau Ty’n Rhos wedi'i leoli ar fferm laeth a chig eidion deuluol. Yr unig fuches laeth yng Ngwynedd sydd yn rhydd i fynd allan i bori ac yn cael eu godro yn roboteg, gyda’r llaeth yn cael ei brosesu i wneud caws a menyn Dragon gan Hufenfa De Arfon, yn Eifionydd. Mae'r fferm dair milltir o dref hanesyddol Caernarfon yng Ngwynedd, Gogledd Cymru ac mae'n manteisio ar olygfeydd panoramig o fynyddoedd Eryri. Mae’n safle canolog delfrydol i ddarganfod Eryri, Ynys Môn, Pen Llŷn, a thraeth Dinas Dinlle sydd o fewn tafliad carreg.
Mae'r safle maes carafanau gwastad 2 erw yn cynnwys 25 o leiniau gwych. Wedi eu lleoli o amgylch perimedr y parc, gan adael y canol yn agored ar gyfer defnydd hamdden.
Mae croeso bob amser i cartrefi symudol (motorhomes)
Bloc toiledau, cawodydd poeth am ddim, ystafell golchi llestri, digonedd o ddŵr poeth, gwasanaeth pecyn rhewgell. Mae storio carafanau ar gael hefyd.